Prynwr yn achub Ysgol Breifat Kings Monkton rhag cau?

Ysgol Kings Monkton Image copyright CfBT Education Trust
Image caption Mae'r ysgol yn codi £8,000 y flwyddyn ar gyfer addysg breifat.

Mae'n ymddangos bod dyfodol un o ysgolion annibynnol hynaf Cymru yn ddiogel.

Roedd 'na bryder y byddai'n rhaid cau ysgol Kings Monkton yng Nghaerdydd, oherwydd dyledion o £350,000.

Ond mae hi wedi dod i'r amlwg bod dyn busnes lleol yn gobeithio prynu'r ysgol.

Dywed perchnogion yr ysgol, Ymddiriedolaeth Addysg CfBT, fod cwmni dyn busnes lleol, Andrew McCarthy, Ysgolion Annibynnol Heathfield, yn bwriadu cymryd yr awenau.

'Marchnata'r ysgol'

Mae'r ysgol, sy'n dyddio nôl i'r 1860au, yn cyflogi 60 aelod o staff ac yn codi £8,000 y flwyddyn ar gyfer addysg breifat.

Ers pedair blynedd mae'r ymddiriedolaeth a fuddsoddodd £750,000 yn yr ysgol wedi bod yn rheoli'r ysgol.

Ond ym mis Ionawr rhybuddiodd yr ymddiriedolaeth yr ysgol y byddai'n rhaid cau ym mis Medi os nad oedd modd codi digon o arian.

Ymddiswyddodd y prifathro, Simon Antwis, ym mis Ionawr eleni oherwydd ansicrwydd am ddyfodol yr ysgol.

Ddydd Mawrth dywedodd Mr McCarthy: "Rwyf i a'm tîm yn hapus dros ben i gymryd cyfrifoldeb am Ysgol Kings Monkton gan sicrhau ei dyfodol.

"Rydym yn bwriadu gwneud nifer o newidiadau gan wella'r amgylchedd a'r cyfleusterau.

"Rydym hefyd am fuddsoddi'n helaeth i farchnata'r ysgol i ddenu disgyblion newydd."

Cafodd yr ysgol ei sefydlu ym 1995 ar ôl i ddwy ysgol, Coleg y Brenin a Monkton Hall uno.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.