Damwain ddifrifol

Mae Heddlu'r De yn apelio am dystion ar ôl damwain ddifrifol yn Abertawe nos Iau.

Bu car Suzuki Grand Vitara mewn gwrthdrawiad gyda beic modur ar Ffordd Gwynedd yn ardal Townhill am 8.55pm.

Cafodd gyrrwr y beic modur anafiadau i'w ben.

Mae o mewn cyflwr difrifol yn Ysbyty Treforys

Bu'n rhaid cau'r ffordd am dair awr a hanner wrth i'r heddlu ymchwilio i achos y ddamwain.

Dylai unrhyw un ag unrhyw wybodaeth gysylltu â'r heddlu ar 02920 633438 neu 101 neu Taclo'r Tacle ar 0800 555111.