Rygbi: Richie Rees yn ymuno â'r Dreigiau

Richie Rees
Image caption Chwaraeodd Rees 100 o weithiau dros y Gleision

Mae'r mewnwr Richie Rees wedi arwyddo cytundeb dwy flynedd â Dreigiau Gwent.

Bydd Rees yn ymuno â'r Dreigiau yn yr haf yn dilyn tymor yn chwarae i Gaeredin ar ôl chwarae dros y Gleision am bum mlynedd.

Mae cyn-chwaraewr y Gleision wedi chwarae dros Gymru naw o weithiau gan sgorio un cais yn erbyn Lloegr yn 2010.

Ond ni chafodd ei enwi yng ngharfan Cymru ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.

"Rwy'n edrych ymlaen at ymuno â'r Dreigiau ond rwyf wedi gwneud llawer o ffrindiau yn ystod y tymor rwyf wedi treulio yng Nghaeredin," meddai Rees.

Dywedodd hyfforddwr y Dreigiau, Darren Edwards: "Mae Richie wedi profi ei hun fel chwaraewr profiadol ar lefel rhanbarthol a rhyngwladol."