'Damwain ddifrifol': Tagfeydd

  • 8 Mawrth 2013

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 5.19pm nos Wener oherwydd gwrthdrawiad rhwng cerbyd gyriant pedair olwyn, lori fach a cherbyd arall.

Roedd y ddamwain ar yr A40 heibio Cylchfan Hendygwyn.

Ar un adeg roedd llawer o oedi i yrwyr oedd yn teithio i gyfeiriad y gorllewin rhwng Cylchfan Pontddu a Chylchfan Penblewyn.