Yr Alban dan-20 17-42 Cymru dan-20

Ellis Jenkins Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Ellis Jenkins yw capten Cymru dan-20

Mae tîm rygbi dan-20 Cymru yn dal i obeithio am y Gamp Lawn ym Mhencampwriaeth dan-20 y Chwe Gwlad yn dilyn buddugoliaeth ysgubol yn erbyn Yr Alban nos Wener.

Roedd llawer wedi ystyried Yr Alban yn dîm cryf, ond daeth buddugoliaeth gymharol hawdd i Gymru o 42-17.

Ar ôl crafu buddugoliaeth yn y gêm gyntaf o'r bencampwriaeth yn erbyn Iwerddon, mae'r garfan ifanc wedi mynd o nerth i nerth gyda buddugoliaethau oddi cartref yn Ffrainc a'r Eidal i efelychu'r prif dîm.

Ond daeth y ceisiau rif y gwlith nos Wener wrth i Gymru chwalu'r Albanwyr.

Roedd yr hyfforddwr Danny Wilson wedi dweud mai un maes yr oedd am weld yn gwella oedd disgyblaeth gan i'r Cymry weld sawl cerdyn melyn yn ystod y gystadleuaeth.

Fe gafodd ei siomi gyda'r agwedd yna gan i Gymru weld un arall yn Stadiwm Tulloch yn Inverness.

Ond daeth cais olaf Cymru pan oedden nhw i lawr i 14 dyn tua diwedd y gêm i bwysleisio goruchafiaeth y tîm.

Bydd Cymru'n croesawu Lloegr i Barc Eirias ym Mae Colwyn nos Wener nesaf gyda'u llygaid ar y bencampwriaeth a'r Gamp Lawn.