Hwb ariannol i gofeb lofaol Genedlaethol i Gymru

  • 11 Mawrth 2013
Llun archif o drychineb Senghennydd
Llun o'r archifau o drychineb Senghennydd yn 1913 lle collwyd 440 o fywydau

Cafwyd hwb i'r ymgyrch i ariannu cofeb i drychineb pwll glo Senghennydd ar ôl i Brif Weinidog Cymru Carwyn Jones gyhoeddi bod £23,000 ychwanegol ar gael i'r ymgyrch.

Senghennydd oedd lleoliad y trychineb glofaol gwaethaf yn hanes Prydain pan laddwyd 440 o weithwyr, yn ddynion a bechgyn, ym 1913 yn dilyn ffrwydrad enfawr ym mhwll glo Universal.

Mae Grŵp Treftadaeth Cwm Aber yn datblygu cynlluniau i greu cofeb ger safle hen bwll glo Universal.

Bydd y gofeb yn cynrychioli holl gymunedau glofaol Cymru, ac ar yr un pryd yn anrhydeddu'r rhai a gollwyd yn nhrychineb Senghennydd.

Cyfraniadau cymunedol

Eisoes mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £26,000 ar gyfer y prosiect drwy roi cyllid i Gyngor Caerffili.

Wrth gyhoeddi'r arian ychwanegol, dywedodd Carwyn Jones: "Ym 1918 syfrdanwyd yr holl fyd gan y trychineb yn Senghennydd a newidiwyd bywydau bron pob aelwyd yng Nghwm Aber.

"Roedd yn drasiedi a ddaeth yn symbol o'r peryglon a'r aberth a wnaed gan y rhai fu dan ddaear yn chwilio am lo, ond na ddaethant byth adref.

"Rwyf yn hapus iawn ein bod yn gallu chwarae rhan drwy gefnogi'r gofeb werthfawr hon."

Cyhoeddodd y Prif Weinidog yr apêl er mwyn codi Cofeb Genedlaethol Lofaol Cymru ym mis Mehefin y llynedd.

Cafodd y cynllun gefnogaeth ariannol gan Gyngor Caerffili a Chronfa Dreftadaeth y Loteri (CDL) ynghyd â nifer o gyfraniadau cymunedol.

Daeth £48,000 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri ar gyfer rhaglen o weithgareddau fydd yn codi ymwybyddiaeth o'r trychineb yn ogystal â chreu'r gofeb.

Mae'r rhain yn cynnwys archwilio cofnodion cyhoeddus er mwyn adnabod bob un fu farw yn Senghennydd, hyfforddiant mewn ysgrifennu creadigol a straeon digidol, a gweithdai ceramig er mwyn creu teiliau coffa i bob glöwr fu farw.

Bydd y cynllun terfynol yn cynnwys gardd a mur coffa, yn ogystal â cherflun gan yr artist Les Johnson.