Gwraig gynta Richard Burton, Sybil Christopher, wedi marw

Richard Burton a'i wraig gynta Sybil a'u merch Jessica yn Rhufain yn 1961 Image copyright Getty Images
Image caption Richard Burton a'i wraig gynta Sybil a'u merch Jessica yn Rhufain yn 1961

Bu farw gwraig gynta' Richard Burton yn Efrog Newydd, roedd hi'n 83 mlwydd oed.

Dechreuodd Sybil Christopher, a aned yn Sybil Williams ym Mhendyrus yn Y Rhondda, ei gyrfa fel actores cyn troi at gynhyrchu dramâu a sefydlu clwb nos.

Cafodd hi a Burton ddwy ferch gyda'i gilydd cyn iddyn nhw ysgaru wedi iddo gael perthynas gyda'i gyd seren Hollywood, Elizabeth Taylor.

Fe briododd Burton a Taylor ddwywaith wedi hynny.

Mae Ms Christopher yn gadael ei dwy ferch, ynghyd â merch arall o'i hail briodas ag actor a chanwr Americanaidd, Jordan Christopher.

Straeon perthnasol