Darllediad eglurder llawn ar S4C?

S4C
Image caption Wrth geisio arbed arian, daeth S4C â gwasanaeth Clirlun i ben ddiwedd 2012.

Mae S4C yn cynnal trafodaethau gyda darparwr er mwyn sicrhau darllediad eglurder llawn.

Ar hyn o bryd mae gan y sianel dri chwarter eglurder sy'n gallu dod i'r amlwg yn ystod rhai digwyddiadau chwaraeon.

Yn unol â'r gofynion y mae Ofcom wedi'u cyhoeddi, dylai eglurder llawn fod ar gael i ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus fel S4C.

Wrth geisio arbed arian, daeth S4C â gwasanaeth Clirlun i ben ddiwedd 2012 - sef y llun manylder uwch ar gael i wylwyr Freesat - er mwyn arbed £1.5 miliwn y flwyddyn.

Dywedodd Prif Swyddog Technegol S4C, Steve Cowin ddydd Mawrth: "Rydym mewn cysylltiad cyson nawr gyda darparwyr ein 'multiplex' ynglŷn â'r mater yma.

"Mae eglurder llawn yn golygu bod y llun yn well o safbwynt y gwyliwr, ac mae hynny eisoes ar gael i ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus eraill.

"Rydym yn gobeithio sicrhau hyn i wylwyr S4C mor fuan â phosib."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.