Gŵyl gerddorol yn gadael Cymru

Beach Break Live Image copyright Other
Image caption Roedd 20,000 yn yr ŵyl yn 2011

Mae Beach Break Live wedi cadarnhau y byddan nhw'n symud yr ŵyl gerddorol o Benbre yn Sir Gaerfyrddin i Gernyw.

Mae'r ŵyl wedi bod yn cael ei chynnal yn sir Gaerfyrddin ers tair blynedd.

Yn ôl y trefnwyr mae'r ŵyl yn esblygu, ac roedd yn rhaid meddwl am leoliad gwahanol.

Arestiodd yr heddlu 31 o bobl am droseddau'n ymwneud â chyffuriau yn yr ŵyl ar draeth Cefn Sidan ger Parc Gwledig Penbre, Sir Gâr, rhwng Mehefin 14 ac 18 y llynedd.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.