Y Pab yn cynnal ei offeren gyntaf

Pab Ffransis I Image copyright AFP
Image caption Cychwynnodd Y Pab Ffransis I ar ei waith ddydd Iau

Mae'r Pab Ffransis I wedi cynnal ei offeren gyntaf fel arweinydd yr Eglwys Gatholig ddydd Iau.

Hefyd mae Jorge Mario Bergoglio yn dechrau apwyntio uwchswyddogion y Fatican.

Fe ddaw'r Pab newydd 76 oed o Buenos Aires yn Yr Ariannin ac roedd yn ymgeisydd agos pan etholwyd y Pab Bened XVI yn 2005.

Fe yw'r Pab cyntaf o America Ladin lle mae 40% o Babyddion y byd, a'r un cyntaf o du allan i Ewrop ers 1,000 o flynyddoedd.

'Gollwng grym'

Yn ôl gohebydd crefydd Radio Cymru, John Roberts, mae'n bosib y bydd y Pab newydd yn ddiwygiwr.

"Fe wnaeth o gyfarch pobl Rhufain fel eu hesgob nos Fercher," meddai.

"Ydy hyn yn arwydd fod gennyn ni Esgob yn Bab fydd yn gollwng grym i'r casgliad o Esgobion mewn gwahanol ardaloedd?

"Dyna obaith rhai yn sicr.

"Oes 'na arwydd ei fod yn mynd i fod yn ddiwygiwr, gan ollwng grym yn hytrach na thynnu grym i mewn?"

Arwyddocaol

Ychwanegodd Mr Roberts fod dewis yr enw Ffransis yn arwyddocaol.

"Mae'r enw yn pwysleisio symlder byw ... a dyna beth sydd wedi dod allan amdano sef ei fod yn byw yn syml iawn.

"Doedd e ddim yn byw mewn palas fel y rhan fwyaf o Gardinaliaid ond mewn fflat fach.

"Roedd yn coginio i'w hun a theithio ar y bws ... ac rwy'n meddwl mai ef oedd un o'r ychydig Cardinaliaid wnaeth hedfan i Rufain yn economi yn hytrach na dosbarth cyntaf."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.