Achos llofruddiaeth: Rheithgor gartre'

Thomas Sutton Image copyright Wales News Service
Image caption Roedd Thomas Sutton yn 20 oed

Mae rheithgor yn achos dyn 22 oed o Faesteg ar gyhuddiad o lofruddio dyn 20 oed ac o geisio llofruddio llanc 18 oed wedi cael eu hanfon adre'.

Stuart Lee Worvell sy'n wynebu cyhuddiad o lofruddio Thomas John Sutton, 20 oed, ac o geisio llofruddio Kyle Harris, 18 oed.

Mae wedi gwadu'r cyhuddiadau.

Clywodd Llys y Goron Caerdydd fod y diffynnydd yn gwrando ar gerddoriaeth yn y bath pan glywodd rywun yn curo drws y ffrynt.

Roedd Thomas Sutton yn meddwl bod parti yn y tŷ ond pan agorodd y diffynnydd y drws trywanodd Mr Sutton nawgwaith â chyllell gegin.

Amddiffyn

Wedyn trywanodd Kyle Harris oedd wedi ceisio achub ei ffrind.

Yn y llys honnodd y diffynnydd ei fod wedi ceisio amddifyn ei hun am fod y ddau o'r Caerau wedi ceisio ei fwrw â darnau o bren.

Dywedodd Mr Harris wrth y llys nad oedd yn cofio'n iawn beth ddigwyddodd y noson dan sylw ond bod y ddau wedi galw yn y tŷ am fod angen sigarét.

Wedyn, meddai, roedd sgwrs rhwng Mr Sutton a'r diffynnydd.

Pan gafodd ei holi gan yr erlynydd Greg Taylor QC, dywedodd nad oedd y ddau'n cario arfau.

Disgrifiodd yr hyn ddigwyddodd pan welodd y gyllell.

"Roedd yn hir ... alla i ddim cofio'n iawn ... cafodd Thomas ei frifo ... roedd yn gweiddi ..."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.