'Negeseuon cymysg' i undebau credyd yn ôl ymchwil

Arian
Mae'r undebau credyd yn cynnig cymorth ariannol i'r rhai mewn gwir angen

Mae ymchwil a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru wedi cyhuddo gweinidogion o anfon "negeseuon cymysg" i undebau credyd, gan rybuddio y gallai llawer gau neu leihau mewn niferoedd eleni.

Yn ôl yr arolwg mae "tensiwn sylfaenol" gan fod undebau yn cael eu gorchymyn i fod yn fwy cynaliadwy yn ariannol tra hefyd yn cynnig gwasanaethau y maen nhw'n dweud na all gyflawni enillion ariannol.

Mae gweinidogion wedi cyfeirio dro ar ôl tro at eu cefnogaeth i undebau credyd gan eu bod nhw'n mynd i'r afael â thlodi a chyfiawnder cymdeithasol.

Ond mae ymchwilwyr Old Bell 3, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, yn dweud eu bod o'r farn bod y "disgwyliadau a osodir ar undebau credyd yn uchel iawn a gellir dadlau yn afrealistig".

Blaenoriaethau

"Daethom i'r casgliad bod hi'n ymddangos bod yna dyndra rhwng cynhwysedd y mudiad undebau credyd yng Nghymru a'r dyheadau ar eu cyfer i gyflawni'r amcanion disgwyliedig polisi lefel uchel sy'n ymestyn dros gyfiawnder cymdeithasol, datblygu economaidd a hyd yn oed addysg."

Ac maen nhw'n rhybuddio bod rhai o fewn y sector yn credu bod blaenoriaethau gweinidogion yn dechrau symud i ffwrdd oddi wrth undebau credyd, gyda llawer yn wynebu "penderfyniadau allweddol" unwaith y daw'r cyllid cyhoeddus i ben ar ddiwedd y flwyddyn.

Mae'r ymchwilwyr yn dweud: "Mae cydnabyddiaeth eang, gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru yn debygol o ddod i ben yn 2013, y bydd nifer yr undebau credyd yn lleihau a rhai yn cau yn gyfan gwbl".

Bydd Llywodraeth Cymru wedi neilltuo bron i £5.5 miliwn i undebau credyd rhwng 2009 a diwedd 2013 mewn ymgais i'w helpu i ehangu mynediad pobl i wasanaethau ariannol.

Benthyciadau

Mae'r Trysorlys yn ymgynghori ar a ddylai uchafswm y gyfradd llog sy'n cael ei godi gan undebau symud o 2% i 3%.

Ar hyn o bryd, mae 22 o undebau credyd sy'n cwmpasu Cymru gyfan sy'n darparu gwasanaethau i dros 62,000 o oedolion a chynilwyr ifanc.

Mae aelodau o undeb credyd yn cynilo mewn cronfa gyffredin.

Gall y gronfa gael ei defnyddio wedyn i gynnig benthyciadau i aelodau.

Mae undebau yn cael eu strwythuro fel mentrau cydweithredol, sy'n golygu fod cynilion a'r llog ar fenthyciadau yn aros o fewn yr undeb.

Pan gafodd Carwyn Jones ei holi ddydd Mawrth ar yr hyn a elwir yn "fenthyciadau diwrnod cyflog" dywedodd Prif Weinidog Cymru fod yr arfer yn "gywilyddus" a chyfeiriodd at gefnogaeth y llywodraeth ar gyfer undebau credyd fel dewis arall i bobl ar incwm isel.

Bancio fforddiadwy

Ond mae llefarydd ar ran Undeb Credyd Gogledd Cymru yn rhybuddio eu bod yn gwneud colled ar y math o fenthyciadau y mae gweinidogion yn eu hannog i ddarparu.

"Ethos Undebau Credyd yw darparu bancio fforddiadwy i bawb, gan gynnwys y di-waith a'r rhai ar incwm isel sy'n methu â chael mynediad at wasanaethau bancio stryd fawr," meddai.

"Dyma rai o'r bobl fwyaf bregus yn ein cymuned sy'n aml yn troi, o anobaith, at fenthycwyr carreg drws neu gwmnïau benthyciad diwrnod cyflog sy'n codi cyfraddau llog enfawr.

"Mae cyllid gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn cefnogi'r undeb credyd i ddarparu gwasanaethau i'r bobl hynny.

"Fodd bynnag, mae Undeb Credyd Gogledd Cymru wedi cyfrifo fod benthyciadau gwerth llai na £750 yn golygu colled i'r Undeb, ac roedden nhw'n cyfateb i tua 80% o'r holl fenthyciadau y cytunwyd arnyn nhw'n 2012.

"Er mwyn i Undebau Credyd fod yn gynaliadwy a pharhau i ddarparu'r gwasanaeth hwn rhaid iddyn nhw ganolbwyntio eu hadnoddau presennol ar ddenu benthyciadau gwerth uwch i wneud yn iawn am y benthyciadau isel eu gwerth.

Ymwymiad

"Mae angen i Lywodraeth Cymru gefnogi undebau credyd i herio stereoteip 'Banc y tlodyn' a'n helpu i ymgysylltu gyda benthycwyr prif ffrwd.

"Dim ond yn y modd hwn fydd yr undeb credyd yn dod yn fanc sy'n cael ei berchnogi gan y gymdeithas".

Gwrthododd Gweinidog Cymunedau, Carl Sargeant, gael ei gyfweld ond mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ei ran: "Mae undebau credyd yn chwarae rhan bwysig wrth gyflawni ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi.

"Yn yr hinsawdd ariannol, mae'r gwasanaethau a ddarperir ganddyn nhw'n hanfodol, yn enwedig mewn ardaloedd difreintiedig.

"Fel gyda banciau a chymdeithasau adeiladu, mae holl gynilion a gedwir gan Undebau Credyd yn cael eu gwarchod hyd at £85,000 gan Gynllun Iawndal y Gwasanaethau Ariannol."