Windigo
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Poen meddwl i hwylwyr goll eu cwch ar ôl iddi ddod i'r lan

13 Mawrth 2013 Diweddarwyd 21:53 GMT

Fe fyddech chi'n meddwl y byddai hwylwyr gollodd eu cwch ar ôl cael eu hachub mewn storm yn falch o gael y cwch yn ôl.

Ond nid dyna'r realiti i Stephen Jones o Gyffordd Llandudno yn wreiddiol a'i gariad Tanya Davies.

Roedd y ddau wedi setlo yn Seland Newydd ar ôl colli popeth oedd ganddyn nhw yn y storm yn y Cefnfor Tawel ym mis Tachwedd.

Ond rŵan bod y cwch wedi'i olchi i'r lan yn Awstralia maen nhw mewn picil go iawn.

Adroddiad Dafydd Evans.