Cau Ysgol Bro Ddyfi: Dim cyflenwad dŵr

Mae Ysgol Uwchradd ym Mhowys wedi gorfod cau oherwydd nad oes ganddi gyflenwad dŵr.

Dywed cwmni Severn Trent eu bod yn credu mai'r broblem sy'n effeithio ar Ysgol Bro Ddyfi ym Machynlleth yw pibell sydd wedi ei thorri.

Mae 45 o bobl yn y dref wedi ffonio'r cwmni i ddweud nad oes ganddynt hwythau gyflenwad dŵr.

Dywed y cwmni eu bod yn gweithio i adfer y cyflenwad dŵr yn y rhan o'r dref sydd wedi ei heffeithio.

Ychwanegodd llefarydd ar ran y cwmni fod tanceri dŵr wedi cael eu cludo i Fachynlleth fel mesur dros dro.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.