Cofio hanes a chelfyddyd Yr Wyddgrug mewn eglwys

Eglwys Stryd Tyddyn, Yr Wyddgrug
Image caption Mae'r paneli wedi eu lleoli yn Eglwys Stryd Tyddyn yn Yr Wyddgrug

Mae paneli newydd yn rhoi gwybodaeth am hanes, celfyddyd ac ymwelwyr enwog tref Yr Wyddgrug yn Sir y Fflint.

Lleolir y paneli mewn eglwys ar Stryd Tyddyn, adeilad a oedd yn agos iawn i safle terfysgoedd a ddigwyddodd yn y dref yn 1869.

Mae un o'r paneli yn adrodd hanes y terfysgoedd a ddechreuodd wedi i lowyr lleol gael eu dyfarnu'n euog wedi gwrthdrawiad gyda'u rheolwr.

Bu farw pedwar person wedi i filwyr ddechrau saethu at y dorf.

Image caption Mae gwybodaeth am ymweliad y cyfansoddwr Felix Mendelssohn ar y paneli newydd

Mae paneli eraill yn sôn am gysylltiadau'r Wyddgrug â'r celfyddydau, gan gofio nid yn unig pobl leol fel yr artist Richard Wilson a'r nofelydd Daniel Owen, ond hefyd ymwelwyr enwog megis Felix Mendelssohn a'r awdur Charles Kingsley.

Un o'r bobl fu'n gyfrifol am helpu i roi'r paneli at ei gilydd yw'r hanesydd lleol David Rowe.

Dywedodd ei bod hi wedi bod yn anodd penderfynu hanes pwy ddylai fod ar y paneli gan fod yna gymaint o ddewis.

Ailwampio

"Mae'r Wyddgrug yn aml wedi cael ei alw'n ganolfan celfyddydol," meddai.

Mae paneli eraill yn rhoi hanes emynwyr Yr Wyddgrug, eisteddfodau yn y dref ac Anghydffurfiaeth yn y dref.

Image copyright British Museum
Image caption Un o eitemau enwoca'r dref yw'r fantell aur fydd i'w gweld yng Nghymru dros yr haf

Bydd y paneli'n rhan barhaol o'r eglwys, sydd wedi cael ei ailwampio'n ddiweddar.

Fel rhan o'r prosiect ailwampio cafodd yr eglwys ei gwneud yn adeilad amlbwrpas er mwyn ceisio hybu'r defnydd ohono.

Dywedodd Mr Rowe ei fod yn gobeithio y byddai'r paneli yn hybu diddordeb pobl mewn pynciau lleol.

"Dwi'n gobeithio bydd pobl leol ac ymwelwyr yn edrych arnyn nhw ac yna yn mynd ymlaen i wneud ymchwil eu hunain," meddai.

"Mae gennym adnoddau fel llyfrgell Yr Wyddgrug ac Archifdy Sir y Fflint yma ac felly dwi'n gobeithio bydd pobl yn gwneud ymchwil pellach."

Bydd y paneli'n cael eu dadorchuddio am 7pm nos Wener.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.