Gŵyl wyddonol yn lledu'r neges ym Mangor

Gwyddlwyn cyffredin chwe smotyn
Image caption Bydd y gweithgareddau'n cynnwys edrych ar wyfynod

Mae adrannau gwyddoniaeth Prifysgol Bangor yn agor eu drysau i'r cyhoedd fel rhan o Ŵyl Wyddoniaeth.

Daw'r Ŵyl, a gynhelir tan Fawrth 22 â disgyblion ysgol, teuluoedd ac oedolion i gyswllt â'r gwyddorau a thechnoleg mewn sawl cyfrwng a lleoliad fel rhan o Wythnos Genedlaethol Gwyddoniaeth a Pheirianneg.

Bydd y digwyddiadau yn cynnwys theatr sy'n eich annog i holi am y byd o'ch cwmpas, arddangosiadau rhyngweithiol a gweithgareddau gwyddonol a thrafodaethau a sgyrsiau.

Mae gwahoddiad agored i'r cyhoedd ddod i weld rhai o labordai ac adnoddau gwyddonol y Brifysgol yn ystod Diwrnod Bydoedd Cudd, ddydd Sadwrn rhwng 10 am a 4 pm yn Adeilad Brambell.

Cwm Idwal

Bydd yr Amgueddfa Bywyd Gwyllt yn agored ynghyd ag acwariwm a labordai fel Sefydliad Ymchwil Canser y Gogledd Orllewin.

Yn ogystal â gweithgareddau gwyddonol bydd hefyd arddangosfa o ffotograffau a chelfyddydau gwyddonol.

Hefyd bydd disgyblion Ysgol Uwchradd Bodedern, sydd wedi gweithio efo gwyddonwyr yr Ysgol Gwyddorau Biolegol, yn cyflwyno'u gwaith project Cymdeithas Frenhinol ar "Antarctica ar Newid Hinsawdd a Physgod Rhew".

Cynhelir hyn yn Narlithfa A12 yn Adeilad Deiniol am 11am.

Ceir hefyd amrywiaeth o sgyrsiau a ffilmiau ar wahanol bynciau.

I'r rhai sy'n mwynhau'r awyr agored, bydd y Diwrnod Gwyddoniaeth Wyllt ddydd Sul Mawrth 17.

Hefyd cynhelir taith dywys o amgylch Cwm Idwal o 2pm tan 5 p.m. ddydd Sul.

Trefnir Gŵyl Wyddoniaeth Bangor gan Rosanna Robinson o Goleg Gwyddorau Naturiol y Brifysgol a Stevie Scanlan, o Goleg Gwyddorau Ffisegol a Chymhwysol y Brifysgol.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.