Gohirio streic glanhau trenau

Mae streic 24 awr gan lanhawyr ar drenau gwmni Arriva ddydd Sadwrn wedi ei ohirio.

Roedd aelodau undeb yr RMT i fod i gynnal y streic wrth i filoedd o bobl deithio i Gaerdydd i wylio gêm olaf Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni yn erbyn Lloegr.

Mae'r anghydfod rhwng y glanhawyr a'u cyflogwyr yn ymwneud â chyflogau.

Pleidleisiodd naw o bob 10 o'r glanhawyr sy'n cael eu cyflogi gan gwmni Churchill i weithredu'n ddiwydiannol wedi i'r undeb gyhuddo'r contractwyr o wrthod cynnig codiad cyflog i'w haelodau.

Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol yr RMT, Bob Crowe fod y streic wedi ei ohirio am fod yr undeb wedi derbyn gwell cynnig.

Ychwanegodd fod yr undeb wedi gohirio'r streic wrth i drafodaethau barhau.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.