Gŵyl a straeon newydd i ddiddanu plant Cymru

Logo Straeon i Blant Radio Cymru
Image caption Fe fydd y chwe stori newydd i'w clywed ar BBC Radio Cymru yn ystod yr wythnos

Bydd cyfle i blant Cymru glywed straeon newydd sbon ar y radio o ganlyniad i gynllun arbennig ar drothwy gŵyl newydd.

Mae BBC Cymru wedi comisiynu chwech o awduron adnabyddus i wneud y gwaith sy'n rhan o wythnos plant ar Radio Cymru.

Bydd y straeon yn cael eu darlledu a'u podledu yn ystod yr wythnos sy'n arwain at Ŵyl Llên Plant Cymru yng Nghaerdydd.

Fe fydd yr ŵyl yn cychwyn yn y brifddinas ddydd Mercher.

Dyddiol

Y chwe awdur sydd wedi ysgrifennu straeon newydd yw Caryl Lewis, Angharad Tomos, Bethan Gwanas, Morgan Tomos, Hywel Griffiths a Gwenno Hughes.

Mae'r straeon wedi eu hanelu at y plant lleiaf.

Yr actorion Rhian Morgan a Sion Pritchard fydd yn darllen y straeon.

Image caption Yr actores Rhian Morgan fydd yn darllen rhai o'r straeon newydd ar Radio Cymru

Bydd eu straeon yn cael eu darlledu'n ddyddiol ar raglen Nia ar Radio Cymru rhwng Mawrth 18 a Mawrth 21 a byddan nhw hefyd ar gael fel podlediadau ar y we yn syth ar ôl cael eu darlledu.

Cyngor Caerdydd, Llenyddiaeth Cymru, Prifysgol Caerdydd ac Amgueddfa Cymru sy'n trefnu'r ŵyl.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: "Bydd y brifddinas yn cael ei thrawsnewid yn fyd hud o chwedlau a chymeriadau ar gyfer Gŵyl Llenyddiaeth Plant cyntaf erioed Caerdydd."

Ymhlith yr awduron sy'n cymryd rhan yn yr ŵyl y mae Eurig Salisbury Bardd Plant Cymru.

Yno hefyd mae Martin Brown, darlunydd Horrible Histories, awdur How to Train your Dragon, Cressida Cowell; Bethan Gwanas; Angharad Tomos a Mair Tomos Ifans; yr arbenigwr ar Tintin, Michael Farr ac Awdur Llawryfog Pobl Ifainc Cymru, Catherine Fisher.

Hefyd ar y BBC

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.