Leanne Wood i ymladd etholaeth Rhondda yn 2016

Leanne Wodd ym Miwmares yn ddiweddar Image copyright Plaid Cymru
Image caption Mae Leanne Wood wedi sefyll yn etholaeth Rhondda mewn dau Etholiad Cyffredinol

Mae Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood wedi cyhoeddi y bydd yn ymladd etholaeth y Rhondda yn etholiadau nesaf y cynulliad cenedlaethol yn 2016.

Gwnaed y cyhoeddiad mewn araith ym Mae Caerdydd ddydd Gwener i nodi blwyddyn ers iddi gael ei hethol yn arweinydd.

Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru Leighton Andrews yw AC presennol yr etholaeth.

Enillodd y sedd gyda mwyafrif o 6,739 o bleidleisiau dros Blaid Cymru yn Etholiad Cynulliad 2011.

Etholiad Cyffredinol

Mae Ms Wood, sy'n hanu o'r Rhondda ac yn dal i fyw yno, yn Aelod Cynulliad Rhanbarth Canol De Cymru.

Mae hi wedi sefyll dros etholaeth y Rhondda mewn dau Etholiad Cyffredinol gan golli i'r Blaid Lafur bob tro.

Ar hyn o bryd does gan ymgeiswyr etholiad Cynulliad mo'r hawl i sefyll dros etholaeth a bod ar restr ranbarthol eu pleidiau.

Ond mae Llywodraeth San Steffan wedi cyhoeddi y gallai newidiadau i'r rheolau ganiatáu i ymgeiswyr sefyll mewn etholaeth ac ar y rhestr ranbarthol.

Dywedodd Leighton Andrews fod Rhondda wedi gwrthod Leanne Wood yn 2001 ac na fyddai'r canlyniad yn wahanol y tro nesa.

"Rhyw ystum gwleidyddol yn unig yw sefyll yn y Rhondda. Mae'n amlwg ei bod yn bwriadu dod yn ôl i'r cynulliad ar y Rhestr Rhanbarthol, a bydd pobl Rhondda yn gwybod hynny," meddai.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.