'Cytundeb agos' ar reoli'r wasg

Papurau newydd Image copyright PA
Image caption Roedd Ymchwiliad Leveson yn ymchwilio i ddulliau papurau newydd o ddod o hyd i straeon

Mae 'na awgrym bod y prif bleidiau yn San Steffan yn agos iawn at daro bargen ynglŷn â mesurau i gyflwyno siarter frenhinol i reoleiddio'r wasg.

Fe ddaeth y trafodaethau i ben am 2.30am ddydd Llun yn swyddfa arweinydd y Blaid Lafur, Ed Milliband.

Daw hyn oriau cyn y bydd pleidlais yn Nhŷ'r Cyffredin brynhawn Llun ynglŷn â'r ffordd orau i reoleiddio'r wasg.

Mae disgwyl i'r bleidlais fod yn un agos.

Oliver Letwin oedd yn cynrychioli'r Prif Weinidog a'r Dirprwy Brif Weinidog Nick Clegg oedd yn y cyfarfod ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol.

Gobeithiol

Ar ôl pum awr a hanner o drafod mae'n debyg bod y seiliau wedi eu gosod ar gyfer siarter fyddai'n cael ei chefnogi gan ddeddfwriaeth.

Dydd Sul dywedodd y Canghellor George Osborne ei fod yn obeithiol y gallai'r pleidiau ddod i gytundeb cyn y bleidlais.

Dydd Iau cyhoeddodd Mr Cameron fod trafodaethau rhwng arweinwyr y pleidiau ar argymhellion Adroddiad Leveson wedi methu.

Cafodd Ysgrifennydd Cymru David Jones ei alw nôl o daith i'r Dwyrain Pell er mwyn cymryd rhan yn y bleidlais allweddol.

Fe gyrhaeddodd Mr Jones Japan ddydd Mercher i gychwyn y daith fasnach i'r Dwyrain Pell.

Roedd disgwyl iddo ymweld â Fietnam, Y Philippins a Hong Kong cyn dychwelyd adref ar Fawrth 24.

"Mae cael gwasg rydd yn gwbl allweddol i'n cymdeithas a dwi'n gwbl gefnogol i'r prif weinidog ar y mesur mae'n ei gymryd i sicrhau y bydd system o reoli'r wasg yn gweithio," meddai.

Hunan-reoli

Cafodd Ymchwiliad Leveson ei sefydlu ar ôl iddi ddod i'r amlwg fod newyddiadurwyr yn hacio galwadau ffôn preifat.

Daeth Yr Arglwydd Leveson i'r casgliad fod papurau newydd wedi cael effaith dinistriol ar "fywydau pobl ddiniwed".

Roedd o'r farn nad yw'r drefn bresennol o hunan-reoli yn gweithio, ac roedd o am ddeddfu er mwyn sefydlu rheoleiddiwr annibynnol.

Byddai'r ddeddfwriaeth newydd yn asesu'r rheoleiddiwr er mwyn sicrhau ei fod yn gwneud ei waith yn iawn.

Mae Mr Cameron yn anghytuno bod angen deddfwriaeth newydd.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.