Ysgrifennydd Cymru ar ei ffordd yn ôl i'r Dwyrain Pell

David Jones
Image caption Teithio'n ôl i'r Dwyrain Pell fydd David Jones

Fe fydd Ysgrifennydd Cymru yn dychwelyd i'r Dwyrain Pell ac ail gydio mewn taith fasnach.

Cafodd David Jones ei alw'n ôl o'r daith ar gyfer pleidlais yn Nhŷ'r Cyffredin ar reoleiddio'r wasg.

Ond gan i'r tair prif blaid yn San Steffan gytuno fore Llun fydd 'na ddim pleidlais.

Dywedodd AS Llafur Y Rhondda, Chris Bryant, fod y penderfyniad i'w alw'n ôl yn "wastraff arian".

Roedd Mr Jones yn Japan ddydd Gwener pan gafodd alwad i ddychwelyd a bydd yn parhau â'r daith yn Fietnam.

Hefyd roedd i fod i fynd i Ynysoedd y Philipinau a Hong Kong cyn dychwelyd adref ar Fawrth 24.

Yr wythnos diwethaf dywedodd fod "cael gwasg rydd yn gwbl allweddol i'n cymdeithas a dwi'n gwbl gefnogol i'r prif weinidog ar ei fesur i sicrhau y bydd system rheoli'r wasg yn gweithio".

Straeon perthnasol