Llofruddiaeth: Dyn yn y ddalfa

Ystafell reoli
Image caption Heddlu: 'Mae ein hymchwiliadau'n parhau'

Mae dyn 54 oed wedi ei gyhuddo o lofruddio dyn 24 oed o Lanrhymni, Caerdydd.

Bydd Neil John Davies yn y ddalfa cyn ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd ar Fawrth 20.

Cafodd yr heddlu eu galw i dŷ yn Llanrhymni am 1am ddydd Sul.

Aed â Joshua Reece Davies, 24 oed, i'r Ysbyty Athrofaol lle bu farw.

Dywedodd ei deulu: "Roedd yn fab, brawd ac ŵyr cariadus a bydd colled fawr ar ei ôl.

'Galaru'

"Rydyn ni angen preifatrwydd er mwyn galaru."

Mae ystafell ymchwilio yng Nghorsaf Ganolog Caerdydd.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Tudor Thomas: "Hoffwn i ddiolch i'r gymuned leol am ei help yn ystod yr ymchwiliad.

"Er bod dyn wedi ei gyhuddo, mae'r ymchwiliadau'n parhau.

"Dylai unrhywun â gwybodaeth neu a oedd yng nghyffiniau Cranleigh Rise yn oriau mân dydd Sul ffonio 101 neu Taclo'r Tacle'n ddienw ar 0800 555 111."