Damwain farwol: Cyhoeddi enwau

Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enwau'r ddau fu farw wedi i feic modur daro cerddwr ar Ynys Môn.

Y beiciwr modur oedd James Shaw, 37 oed o Amlwch, a'r cerddwr oedd George Pugh, 78 oed o Amlwch.

Bu'n rhaid cau rhan o ffordd yr A5025 ger Amlwch am oriau brynhawn Sadwrn.

Mae'r heddlu yn apelio am dystion.

Dylai unrhywun â gwybodaeth ffonio'r Cwnstabl Gary Threlfall ar 101 neu Taclo'r Tacle'n ddienw ar 0800 555 111.