Stephen Jones
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Llewod: Mwy na 15 Cymro?

19 Mawrth 2013 Diweddarwyd 14:24 GMT

Mae cyn-gapten rygbi Cymru, Stephen Jones, wedi gwneud ei gyfweliad Cymraeg cyntaf ers iddo gyhoeddi'n gynharach eleni ei fod yn rhoi'r gorau i chwarae rygbi proffesiynnol.

Wrth gael ei holi gan Rhodri Llywelyn, dywedodd ei fod yn gobeithio gweld enwau mwy na 15 o dîm Cymru enillodd Bencampwriaeth y Chwe Gwlad ddydd Sadwrn yn teithio i Awstralia gyda'r Llewod yn yr haf.

Byddai hynny, meddai, yn dangos cryfder y gêm yng Nghymru ac yn arwydd bod sustem y rhanbarthau yn gweithio.

Dyma'r cyfweliad cyfan.