Llys: Rhyddhau'n ddigyhuddiad

John Clifton Davies
Image caption Cafodd ei arestio saith mlynedd wedi'r farwolaeth

Yn Llys y Goron Caerdydd mae dyn ar gyhuddiad o lofruddio'i wraig ar eu mis mêl yn India wedi cael ei ryddhau'n ddigyhuddiad.

Cyhoeddodd yr erlyniad nad oedden nhw'n cynnig unrhyw dystiolaeth yn erbyn John Clifton Davies, 52 oed, o Milton Keynes.

Bu farw ei wraig, Collette Davies, o Benybont, ar ôl disgyn 80 o droedfeddi o bont yn 2004.

Cafodd rheithfarn o ddieuog ei chyflwyno yn achos cyhuddiadau o lofruddio a thwyll.

'Cyhuddo'

Dywedodd Felicity Galvin, Uwcherlynydd y Goron: "Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi cydweithio â'r heddlu wrth iddyn nhw ymchwilio i'r farwolaeth.

"Yn Nhachwedd 2011 cyngor y gwasanaeth oedd y dylid cyhuddo John Clifton Davies o lofruddio a thwyll ar sail y dystiolaeth oedd ar gael.

"Yn ddiweddar, aeth plismyn i ranbarth Himachal Pradesh yn yr India a chafodd y plismyn wybod am wybodaeth newydd, gan gynnwys datganiadau dau o bobl.

"Mae modd casglu bod yr wybodaeth yn tanseilio achos yr erlyniad."

Dywedodd fod y gwasanaeth wedi adolygu'r achos ac yn casglu nad oedd manylion achos yrv erlyniad yn cwrdd ag anghenion Cod Erlynwyr y Goron.

Straeon perthnasol