Dysgu atalnodi drwy ddull Gangnam mewn ysgol Gymraeg

Ysgol Garth Olwg
Image caption Athrawes Gymraeg yn yr ysgol, Sian Roberts, gafodd y syniad

Mae ysgol gyfun ger Pontypridd wedi creu fideo - ar sail cân boblogaidd - sy'n ceisio dysgu disgyblion sut i atalnodi.

Ysgol Gyfun Gymraeg Garth Olwg sydd wedi creu fideo sy'n dynwared y gân Gangnam Style.

Mae'r fideo ar wefan YouTube ac wedi ei chwarae dros 23,000 o weithiau ers iddi fod ar y wefan ar Fawrth 13.

Mae'r gân yn cynnwys brawddegau fel "wrth ysgrifennu sgwrs rhwng cymeriadau defnyddiwch bethau bach o'r enw dyfynodau".

Athrawes Gymraeg yn yr ysgol, Sian Roberts, gafodd y syniad ac erbyn hyn, mae hi ac athro arall yn gweithio ar fideo sy'n sôn am y treiglad meddal, fideo wedi ei seilio ar gân Ghostbusters.

Psy o Dde Corea gyfansoddodd gân wreiddiol Gangnam Style, cân am hanes diwylliant ardal Gangnam yn ninas Seoul.

Mae'r fideo wedi cael ei gwylio gan bron 1.5 biliwn o bobl ar YouTube.