Cyfnod newydd i Theatr Colwyn

Theatr Colwyn Image copyright Other
Image caption Cafodd y ffilm gyntaf ei dangos yn Theatr Colwyn yn 1909.

Ar ôl 104 mlynedd o ddangos ffilmiau'r hen ffordd, mae Theatr Colwyn wedi ei digideiddio.

Skyfall fydd y ffilm ddigidol gyntaf i gael ei dangos yn y sinema ym Mae Colwyn wedi iddynt benderfynu datgysylltu'r taflunydd 35 ml.

Mae'r newid yma yn dilyn ailwampiad i'r adeilad yn 2011.

Yn ôl Joann Rae, swyddog marchnata'r theatr, nhw sydd â'r offer digidol mwyaf soffistigedig yng ngogledd Cymru erbyn hyn.

"Roedd yn rhaid i ni fynd yn ddigidol gan nad ydynt yn dangos rhai ffilmiau ar brint erbyn hyn," meddai Joann Rae.

"Roedd o'n dechrau amharu ar beth oedd yn bosib ei ddangos yma.

"Hefyd, mae ansawdd digidol gymaint well na 35 ml ac mae pobl rŵan yn disgwyl yr ansawdd gorau wrth ddod i weld ffilm gyda ni."

£50,000

Mae'r theatr wedi gallu ariannu'r offer digidol gyda grant o £50,000 gan ymgyrch adfywiad arfordir gogledd Cymru Llywodraeth Cymru a hefyd Cyngor Celfyddydau Cymru.

"Y ffilm gyntaf i ni ddangos yn ddigidol bydd Skyfall," ychwanegodd Joann Rae.

"Mae pawb am ddod wedi gwisgo fyny mewn siwtiau neu fel eu hoff gymeriadau o ffilmiau James Bond. Rydym yn gobeithio hel ragor o arian tuag at ein prosiect nesaf, sef i ailwampio tu cefn i'r llwyfan.

"Da ni'n gobeithio ffeindio cartref rywle cyfagos i'r hen daflunydd ffilm, er mae o'n glamp o beiriant.

"Bydd o'n drist i'w golli, ond rhaid symud gyda'r oes."

Cafodd y ffilm gyntaf ei dangos yn Theatr Colwyn yn 1909. Mae Joann Rae yn gobeithio bydd yr offer diweddaraf yn galluogi unig sinema Bae Colwyn i barhau i ddangos ffilmiau am flynyddoedd i ddod.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.