Yr ymateb i Gyllideb 2013

  • 20 Mawrth 2013
Tŷ'r Cyffredin brynhawn dydd Mercher
Roedd 'na ymateb bywiog i bedwaredd cyllideb George Osborne ddydd Mercher

Roedd 'na ymateb bywiog a swnllyd i gyllideb y canghellor, a draddodwyd brynhawn dydd Mercher, a bu'n rhaid i Ddirprwy Lefarydd Tŷ'r Cyffredin ymyrryd sawl gwaith.

Roedd nifer o Aelodau Seneddol yn gafael mewn copïau o bapur newydd yr Evening Standard yn y siambr.

Mae'r papur newydd wedi ymddiheuro ar ôl iddynt gyhoeddi manylion y gyllideb cyn i Mr Osborne draddodi ei araith.

Roedd tudalen flaen y papur newydd yn amlinellu cynlluniau'r canghellor i gael gwared ar y cynnydd mewn treth ar danwydd, yn ogystal â'r ffaith y bydd lwfans treth personol - sef yr incwm y caiff pobl ei ennill cyn talu unrhyw dreth incwm - yn cynyddu i £10,000, a hynny'n gynt na'r disgwyl.

Mae penderfyniadau'n ymwneud â'r gyllideb i fod i aros yn gyfrinachol nes bod y canghellor yn dechrau siarad.

Fe ymddiheurodd y papur newydd am yr hyn yr oeddan nhw'n ei alw yn "gamgymeriad difrifol" a chafodd delwedd y dudalen flaen ei thynnu oddi ar eu gwefan.

'Mwy o'r un peth'

Yn ei ymateb i'r gyllideb, fe alwodd arweinydd Llafur, Ed Miliband, am ymchwiliad llawn i'r modd y cafodd cynnwys llawn yr araith ei roi yn nwylo'r wasg.

Roedd Mr Miliband, yn ôl y disgwyl, hefyd yn feirniadol iawn o'r gyllideb trwy ddweud ei fod yn "fwy o'r un peth - mwy o fenthyg a llai o dwf".

Fe ddisgrifiodd Ed Miliband y canghellor fel "y dyn anghywir yn y lle anghywir ar yr adeg waetha' posib i'r wlad."

Yn ôl Ysgrifennydd Cymru, David Jones, bydd cyhoeddiadau'r canghellor yn "cefnogi pobl Cymru sydd eisiau gweithio'n galed a llwyddo, yn hybu busnesau Cymru sydd eisiau tyfu, ac yn helpu pobl i mewn i'r farchnad dai".

"Roeddwn yn falch o weld y bydd Llywodraeth Cymru'n derbyn £161 miliwn yn rhagor o gyllid cyfalaf o ganlyniad i'r Gyllideb," meddai Mr Jones.

"Yr hyn mae'r Gyllideb hon yn ei ddangos yw bod y llywodraeth yn benderfynol o baratoi'r ffordd ar gyfer adferiad economaidd cynaliadwy. Rydym yn creu amodau i helpu busnesau Cymru i sefydlu, tyfu a datblygu, i helpu unigolion i ofalu am eu teuluoedd ac i gefnogi dyheadau pawb ar gyfer Cymru fwy ffyniannus."

'Cyllideb ddigyffro'

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys, Jonathan Edwards AS, na fydd y gyllideb yn dod â llawer o fudd i economi Cymru, ac yn dangos yn glir bod polisïau'r Trysorlys yn ddrwg i Gymru.

"Roedd hon yn gyllideb ddigyffro gan ganghellor sy'n ceisio darbwyllo'i hun fod ei bolisïau'n gweithio, er gwaetha'r gostyngiad yn y rhagolygon o dwf economaidd.

"Mae'n siomedig nad yw'r canghellor wedi mabwysiadu ystod o fesurau gafodd eu hargymell gan Blaid Cymru megis gwyrdroi gostyngiad treth i'r rhai sy'n ennill dros £3,000 yr wythnos sy'n dod i rym ym mis Ebrill.

"Fodd bynnag mae rhai o'r mesurau y mae Plaid Cymru yn eu croesawu. Mae'r cyhoeddiad am gefnogaeth gofal plant yn symudiad positif ond mae'n bryder i ni nad yw'n cynorthwyo'r rhai sy'n derbyn credyd treth - mewn geiriau eraill y rhai ar yr incwm isaf.

"Mae'n newyddion da hefyd bod y cynnydd mewn treth ar danwydd yn cael ei ddiddymu, ond fe fyddai wedi bod yn well gennym weld ateb tymor hir ar ffurf sefydlogydd treth er mwyn rhwystro prisiau rhag codi'n uchel iawn wrth y pwmp petrol.

"Yn bwysicach i Gymru, fe ddylai'r canghellor fod wedi cyhoeddi ei fod am weithredu argymhellion Comisiwn Silk fel y gall Cymru gael rheolaeth dros fesurau fyddai'n caniatáu buddsoddiad mewn cynlluniau isadeiledd mawr, gan greu swyddi a hybu'r galw yn ein heconomi.

"Ni ddylai teuluoedd cyffredin yng Nghymru orfod talu'r pris am fethiannau'r banciau a pholisïau'r Trysorlys."

'Gwerth parhaol'

Croeso cyffredinol ddaeth gan Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru. Dywedodd cadeirydd eu huned bolisi, Janet Jones:

"Mae'r canghellor wedi cyflwyno ystod eang o gynlluniau i gefnogi busnesau bach.

"Bydd y cynllun cartrefi yn gymorth i fywiogi'r sector adeiladu sy'n cynnwys nifer o'n haelodau.

"Mae'r toriadau i Yswiriant Cenedlaethol yn mynd tu hwnt i'r hyn yr oeddem wedi gofyn amdano, ac rydym yn falch o weld y cynnydd yn y dreth tanwydd ym mis Medi yn diflannu.

"O safbwynt cyllid cyfalaf ychwanegol i Gymru, mae'n bwysig bod Llywodraeth Cymru yn gwario ar gynlluniau a fydd nid yn unig yn creu swyddi, ond a fydd o werth parhaol i'r economi."

'Siomedig i Gymru'

Ond yn ôl Gweinidog Cyllid Cymru Jane Hutt, roedd y gyllideb yn un siomedig i Gymru, a dywedodd:

"Rydym wedi galw ar lywodraeth y DU dro ar ôl tro i hybu buddsoddiad isadeiledd er mwyn hybu'r economi.

"Eu hymateb yw cwtogi ein cyllideb refeniw ar ben y toriadau a gyhoeddwyd yn natganiad yr hydref y llynedd. Fe fydd rhaid i ni nawr ddod o hyd i arbedion o £32 miliwn yn 2013/14 a £81m yn 2014/15.

"Mae'r pris am fuddsoddiad cyfalaf ychwanegol yn uchel. Mae hwn yn ergyd ac yn rhoi ein gwasanaethau cyhoeddus hanfodol o dan bwysau pellach.

"Rydym yn croesawu'r ffaith fod llywodraeth y DU wedi dychwelyd peth o'r arian cyfalaf i ni, ond mae amodau ynghlwm â hynny - gall y cyfalaf ond cael ei ddefnyddio ar gyfer benthyciadau ac fe fydd rhaid ad-dalu peth ohono.

"Mewn cyfnod lle'r ydym yn ceisio cefnogi economi Cymru a hybu twf, mae'r lefel yma o doriadau yn annerbyniol. Mae cost benthyca yn isel iawn ac fe fyddwn am weld llywodraeth y DU yn manteisio ar hynny i gefnogi cynlluniau cyfalaf.

"Mae dadansoddiad yr IMF (International Monetary Fund) yn dweud mai'r adeg iawn i leihau'r ddyled yw pan mae'r economi wedi gwella. Mae'n amser nawr i hybu'r economi yn enwedig yn sgil ffigyrau siomedig diweithdra heddiw.

"Rydym am weld economi Cymru yn cael ei hadfer i'w llawn rym - nid yw cyllideb heddiw yn gwneud y dasg o wneud hynny'n haws."