Tynnu sylw at 8,000 o feddau rhyfel yng Nghymru

Mynwent y Gorllewin, Caerdydd
Image caption Yr adran ym Mynwent y Gorllewin, Caerdydd, lle mae beddau y ddau ryfel byd.

Mae Comisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad yn bwriadu gosod arwyddion mewn 1,145 o fynwentydd ac eglwysi er mwyn tynnu sylw at 8,000 o feddau yng Nghymru.

Mewn rhai safleoedd bydd codau ymateb cyflym yn cael eu gosod ger y beddau, codau y mae ffonau clyfar yn gallu eu sganio.

Yn Sir Benfro a Chaerdydd y bydd yr arwyddion cynta' wrth fynedfeydd mynwentydd.

Bydd arwyddion â manylion hanesyddol yn Eglwys y Santes Farged ym Modelwyddan ac ym Mynwent y Waun Ddyfal yng Nghaerdydd.

Dywedodd Peter Francis o'r comisiwn, sy'n cynnal a chadw beddau'r ddau ryfel byd, fod angen codi ymwybyddiaeth am y beddau.

Image caption Bydd arwyddion wrth fynedfeydd mynwentydd

"Mae'r rhan fwya' o bobol yn gwybod am y mynwentydd yn Ffrainc a Gwlad Belg, yn yr anialwch ac yn y Dwyrain Pell.

"Ond mae angen atgoffa pawb ar garreg y drws, fel petai, beth oedd y pris uchel gafodd ei dalu yn y ddau ryfel byd."

Yn y cyfamser, mae arwyddion wedi eu gosod yn Sir Benfro.

Dywedodd yr ymchwilydd Steven John fod 318 o feddau rhyfel yn Sir Gaerfyrddin, 163 yng Ngheredigion a 508 yn Sir Benfro.

'Hollbwysig'

"Mae'r prosiect yn hollbwysig," meddai.

"Os ewch chi i Ffrainc mae'r beddau ymhobman.

"Yng Nghymru fe ellwch chi yrru heibio mynwent a ddim yn gwybod bod beddau rhyfel yno o gwbwl."

Dywedodd Kevin Brennan, AS Gorllewin Caerdydd, na fyddai llawer o bobl leol yn sylweddoli faint o filwyr fu farw yng Nghymru yn ystod ac wedi'r ddau ryfel byd.

"Bydd yr adnodd o fudd i bobol leol ac ysgolion," meddai.

Dadorchuddiodd arwydd y tu allan i Fynwent y Gorllewin yng Nghaerdydd yr wythnos ddiwetha' ac yno mae 127 o aelodau'r lluoedd arfog wedi eu claddu neu eu coffáu.

"Mae rhai o'r milwyr o Ganada a Gwlad Pwyl ... ac mae'n ysgtywol wrth gofio aberth y dynion ifanc."

Straeon perthnasol