Cronfa £9m yn Nyffryn Conwy yn 'diogelu cyflenwadau'

Cronfa Coed Dolwyd
Image caption Y gronfa'n cynnwys cymaint o ddŵr â 10 pwll nofio Olympaidd

Mae cwmni wedi dweud y bydd cronfa sy'n costio £9m yn "diogelu cyflenwadau" i 70,000 o gartrefi yn Nyffryn Conwy.

Hyd yn hyn mae bron hanner y gwaith ar safle Coed Dolwyd yng Nglan Conwy wedi ei orffen.

Bydd tanciau concrid yn cynnwys 25 megalitrau o ddŵr, gymaint â 10 pwll nofio Olympaidd.

Dywedodd Dŵr Cymru y byddai'r gronfa'n golygu cyflenwad ddydd a nos o ddŵr yfed.

Amrywio

Roedd angen buddsoddi, meddai, am fod pwysau ar y cyflenwadau'n amrywio yn yr ardal sy'n cynnwys Llandudno, Conwy a Bae Colwyn.

"Os yw pawb yn dyfrhau gardd dros y penwythnos yn yr haf mae'r galw ar ei anterth," meddai Martin Hennessey, un o gyfarwyddwyr y cwmni.

"Bydd y gronfa'n arwain at ddigon o storio ac yn golygu y gallwn ni ymateb yn well."

Dylai'r gwaith ddod i ben erbyn Rhagfyr.

Mae mwy na 70 wedi bod yn adeiladu'r tanciau ac yn gosod pibellau.

Dywedodd Rheolwr y Prosiect Paul Hunter: "Rydym yn falch o'r cynnydd hyd yn hyn.

"Cafodd 75% o'r gweithwyr eu recriwtio'n lleol."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.