Rhybudd melyn am law ac eira trwm

Ffordd gydag eira arno Image copyright Reuters
Image caption Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi dau rybudd melyn ar gyfer Cymru nos Iau a dydd Gwener.

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi dau rybudd melyn ar gyfer Cymru nos Iau a dydd Gwener.

Mae un ar gyfer glaw trwm yn ne a gorllewin Cymru.

Mae'r llall yn rhybuddio y bydd eira yn y gogledd ddwyrain a'r canolbarth.

Gallai rhwng 30 a 50mm o law syrthio yn y de a'r gorllewin wrth iddi lawio'n barhaol dros nos a dydd Gwener.

Gallai hyn arwain at lifogydd lleol.

Mae'n bosib gall rhwng 5 a 10cm (2-4 modfedd) o eira syrthio ar dir isel yn y gogledd ddwyrain a'r canolbarth dros nos a dydd Gwener. Gall rhwng 40 cm (16 modfedd) syrthio ar dir uwch.

Mae'r gwyntoedd yn debygol o fod yn gryf iawn, yn enwedig ar yr arfordir. Gall hyn arwain at luwchwyntoedd yn y mynyddoedd.

Nid yw'n debygol bydd y gwynt a'r glaw yn effeithio ar gêm Cymru yn erbyn yr Alban yng Nglasgow nos Wener.

Ond mae'n bosib gall y tywydd fod yn rhwystr i'r cefnogwyr wrth iddynt deithio tua'r gogledd.

Hefyd ar y BBC

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.