'Hyderus' y bydd Bale yn chwarae

Gareth Bale Image copyright PA
Image caption Bale sgoriodd y ddwy ym muddugoliaeth Cymru o 2-1 yn erbyn Yr Alban fis Hydref y llynedd

Mae gobeithion Gareth Bale o fedru chwarae yn y gêm hollbwysig yn erbyn Yr Alban nos Wener yn dda, medd rheolwr Cymru Chris Coleman.

Mae'r ymosodwr o glwb Tottenham Hotspur wedi bod yn diodde' gyda firws drwy'r wythnos, yn ogystal ag anaf i'w ffêr, ac fe deithiodd i'r Alban ar wahân i weddill y tîm.

Ond mae Coleman yn hyderus y bydd y chwaraewr, sy'n allweddol i obeithion Cymru o gipio ail fuddugoliaeth yng ngrŵp rhagbrofol Cwpan y Byd 2014, yn holliach.

"Rwy'n credu bydd y ffêr yn iawn - doedd hynny ddim cymaint o bryder i ni.

"Roedd gan Gareth firws ddydd Mawrth a dydd Mercher ac felly'n methu ymarfer gyda ni, ond mae'r tîm meddygol yn hapus gyda'i ymateb.

"Roedd e angen gorffwys, ac fe ddaeth e ar awyren wahanol i ni am ei fod am gael ei wahanu oddi wrth weddill y tîm am resymau amlwg, ond mae e ar ei draed ac fe fydd yn barod gobeithio."

Bale sgoriodd y ddwy gôl wrth i Gymru guro'r Alban yng Nghaerdydd ym mis Hydref o 2-1.

Fe wnaeth ymarfer ym Mharc Hampden nos Iau, gan gynnwys sesiwn o ymarfer ciciau rhydd ar ei ben ei hun.

Dywedodd Coleman hefyd ei fod yn disgwyl i'r dyfarnwr Antony Gautier fod ar ei orau nos Wener yn dilyn sylwadau gan reolwr Dundee, Jim Brown, am y ffordd orau o ffrwyno doniau Bale.

Mewn cyfweliad dywedodd Brown y byddai'n hapus i weld tactegau "corfforol" gan yr Albanwyr er iddo wadu ei fod wedi argymell y dylid ceisio anafu Bale yn fwriadol.

ROWNDIAU RHAGBROFOL CWPAN Y BYD 2014 - GRŴP A
Chwarae Ennill Cyfartal Colli Pwyntiau
1. Gwlad Belg 4 3 1 0 10
2. Croatia 4 3 1 0 10
3. Serbia 4 1 1 2 4
4. Macedonia 4 1 1 2 4
5. CYMRU 4 1 0 3 3
6. Yr Alban 4 0 2 2 2

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.