Teyrnged teulu i feiciwr fu farw

James Christopher Shaw Image copyright NW police
Image caption Roedd James Christopher Shaw, neu Chris, yn 37 oed ac yn dad i bump o blant gydag un arall ar y ffordd

Mae teulu dyn a fu farw mewn gwrthdrawiad ar Ynys Môn yn gynharach yn y mis wedi cyhoeddi teyrnged iddo.

Roedd James Christopher Shaw, 37 oed, yn un o ddau berson fu farw yn y gwrthdrawiad ger Amlwch ar Fawrth 16.

Roedd yn gyrru beic modur darodd yn erbyn cerddwr ar yr A5025 gan ladd y cerddwr, George Pugh oedd yn 78 oed, a Mr Shaw. Roedd y ddau yn byw yn lleol yn ardal Amlwch.

Mewn datganiad a gyhoeddwyd gan Heddlu'r Gogledd, dywedodd partner a thad Mr Shaw:

"Roedd Chris yn ddyn teuluol teyrngar a chariadus iawn. Roedd yn dad balch i bump o blant ac yn disgwyl mab arall ym mis Mehefin.

"Roedd yn gweithio i gwmni cludiant lleol NR Evans yn y Gaerwen fel gyrrwr lori.

"Ei brif ddiddordebau oedd gyrru beic modur, deifio a chwaraeon maes o bob math, ac fe fydd colled enfawr ar ei ôl i ni gyd."

Straeon perthnasol