Carwyn: 'Dim troi nol ar iechyd'

  • 23 Mawrth 2013
Carwyn Jones AC
Mae'r gynhadledd yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn a dydd Sul.

Bydd yna ddim newid yng nghynlluniau ad-drefnu'r gwasanaeth iechyd gan Lywodraeth Cymru - dyna oedd un o negeseuon y Prif Weinidog Carwyn Jones yn ei araith yng Nghynhadledd Wanwyn Llafur Cymru ddydd Sadwrn.

Mae cynlluniau i gau ysbytai a symud gwasanaethau wedi arwain at brotestiadau ar hyd a lled Cymru.

Prynhawn Sadwrn daeth rhai ymgyrchwyr sy'n gwrthwynebu newidiadau i ardal Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr i brotestio tu allan i'r adeilad ble roedd y gynhadledd yn cael ei chynnal.

Fe wnaeth gydnabod bod y penderfyniadau yn rhai anodd ond pwysleisiodd bod rhaid eu gwneud nhw.

"Yr opsiwn haws fyddai i chwarae'n saff, rhoi risg i'r naill ochr am y tro, a chario ymlaen am ychydig o flynyddoedd... Gallwn ni ddim gwneud hynny," meddai.

"Mae'n rhaid cael gwasanaeth iechyd sy'n saff a'n gynaliadwy i'r dyfodol."

Addysg

Amddiffynnodd hefyd bolisïau addysg ei lywodraeth. Dywedodd eu bod wedi cymryd y camau angenrheidiol i godi safonau Ysgolion Cymru, er gwaethaf beirniadaeth y gwrthbleidiau.

Wrth annerch ffyddloniaid y blaid, gwnaeth sawl cyfeiriad personol hefyd pan yn egluro ei wreiddiau gwleidyddol.

"Ymunon ni a'r blaid hyn i helpu pobol a chymunedau - i wneud bywydau'n well.

"Pan gerddodd fy hen dad-cu o Aberaeron i weithio fel holier yng ngwaith glo'r Mardy yn Nhai'r Gwaith, roedd e'n edrych am fywyd gwell.

"Pan gerddodd hen dad-cu arall o Wynfe dros y Mynydd Du i Frynaman roedd e'n edrych am fywyd gwell."

Aeth ymlaen i son am bwysigrwydd y Gwasanaeth Iechyd i'w fywyd:

"Pan ges i fy ngeni roeddwn yn wael iawn a wnes i orfod treulio wythnosau mewn incubator. Pan roedd fy ngwraig Lisa wedi brwydro a goresgyn leukaemia, roedd y GIG yno iddi hi, ac yno i ni."

Beirniadodd y llywodraeth yn San Steffan, gan ddweud ei bod yn bygwth gwerthoedd y Blaid Lafur, a gwerthoedd y Gwasanaeth Iechyd.

'Hyderus'

Pwysleisiodd hefyd bod datganoli yn broses sydd wedi creu "Cymru fwy hyderus" gan bwysleisio mai Llafur Cymru oedd "datganolwyr Cymru".

Wrth ailadrodd elfennau o dystiolaeth Llywodraeth Cymru i Gomisiwn Silk, dywedodd na allai datganoli "sefyll yn ei unfan", ond tanlinellodd hefyd nad oedd Llafur Cymru eisiau gweld Cymru annibynnol.

Dywedodd bod sefyllfa'r Blaid ar ei gryfaf ers datganoli, ond bod 'na angen i adnewyddu'r blaid.

"Rhaid i ni estyn allan o'n pleidlais draddodiadol. I gymunedau Cymraeg ledled Cymru sydd yn ofni am ddyfodol eu hiaith a diwylliant," meddai.

"I bobol yn y Gogledd-orllewin a'r Gorllewin sydd wedi cael eu siomi gan Blaid Cymru o achos diddordeb y blaid mewn protestiadau nid mewn llywodraethu... i bobl ym Mhowys bleidleisiodd i'r Democratiaid Rhyddfrydol i gadw'r Torïaid allan.. a deffro yn 2010 a gweld bod y Democratiad Rhyddfrydol yn union fel y Torïaid wedi'r cwbl."

Gorffennodd ei araith drwy ddweud mai Llafur yw'r unig blaid yng Nghymru sy'n gallu ymateb i Gymru sy'n newid.