7-bob-ochr: Cymru'n colli'r ffeinal

Fiji yn dathlu buddugoliaeth Image copyright Getty Images
Image caption Fiji yn dathlu buddugoliaeth

Er gwaethaf ymdrech dda, fe gollodd Cymru yn rownd derfynol Pencampwriaeth 7-bob-ochr Hong Kong yn erbyn Fiji ddydd Sul o 26-19.

Roedd Cymru wedi cyrraedd y rownd derfynol am y tro cyntaf erioed.

Aeth Cymru ar y blaen o 19-0 ar yr egwyl. Daeth dau gais gan Cory Allen ac un gan Alex Webber, gyda Rhys Jones yn trosi dau ohonyn nhw.

Ond fe ddaeth pencampwyr y llynedd - Fiji - yn ôl gyda phedwar cais yn yr ail gyfnod i gipio'r tlws.

Sgoriodd Osea Kolinisau dri chais i Fiji, oedd wedi cyrraedd y rownd derfynol trwy guro Seland Newydd yn y rownd gynderfynol.