Bron £700,000 i ymchwil ieithoedd Celtaidd Gorllewin Ewrop

  • 25 Mawrth 2013
Adran Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd
Fe fydd y grant yn caniatau ymchwilio i gefndir archeolegol datblygiad yr ieithoedd Celtaidd yng ngorllewin Ewrop

Mae Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru wedi derbyn grant o £689,167 dros dair blynedd i ymchwilio i gefndir archeolegol datblygiad yr ieithoedd Celtaidd yng ngorllewin Ewrop.

Bydd yr arian yn cael ei wasgaru dros dair blynedd, ac fe ddaeth gan Gyngor Ymchwil y Dyniaethau a'r Celfyddydau (AHRC).

Fe fydd yn cefnogi prosiect ymchwil tair blynedd yn y ganolfan mewn cydweithrediad â Phrifysgol Rhydychen, Coleg y Brenin yn Llundain, Prifysgol Bangor a Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

'Cyfraniad sylweddol'

Dywedodd cyfarwyddwr y ganolfan, yr Athro Dafydd Johnston: "Bydd y cyllid yn caniatáu i ni wneud cyfraniad sylweddol i ddeall etifeddiaeth ddiwylliannol Cymru a'r gwledydd Celtaidd eraill.

"Mae cystadleuaeth ffyrnig am gyllid gan y Cynghorau Ymchwil, ac mae llwyddiant y Ganolfan yn sicrhau grant o'r maint hwn yn tystio i'w henw da rhyngwladol cryf a'i hanes rhagorol o redeg prosiectau ymchwil cydweithredol."

Mae prosiect blaenorol a gyllidwyd gan AHRC wedi codi amheuon am y model sydd wedi cael ei dderbyn ers tro bod 'y Celtiaid' wedi lledaenu draw o Ewrop Oes yr Haearn rhwng tua 750-100 C.C. gan ddod â diwylliant a ieithoedd Celtaidd gyda nhw.

Nid yw'r model yma yn gweithio wrth son am y penrhyn Iberaidd yn benodol.

Mae'n wybyddus bod mwy nag un iaith Geltaidd yn Iberia cyn y Rhufeiniaid, ond mae'n parhau sut a phryd y cyrhaeddon nhw yno.

'Etifeddiaeth ddiwylliannol'

Dan arweiniad y Prif Ymchwilydd (Arweinydd y Prosiect) yr Athro John T. Koch yn y Ganolfan Uwchefrydiau, gyda'r Cyd-Ymchwilwyr yr Athro Syr Barry Cunliffe (Prifysgol Rhydychen), yr Athro Raimund Karl (Prifysgol Bangor) a Paul Vetch (Coleg y Brenin Llundain), bydd y prosiect yn dod â thystiolaeth archeolegol a ieithyddol o Gymru, y DU a gwledydd eraill ffasâd Iwerydd Ewrop at ei gilydd ac yn ei gwneud yn hygyrch ac yn gymaradwy.

Dywedodd Arweinydd y Prosiect John Koch: "Mae gan gyn-haneswyr a ieithyddion hanesyddol gyfrifoldeb i Gymru a'r gwledydd Celtaidd eraill, yn enwedig i bobl sy'n siarad ac yn dysgu Cymraeg a'r ieithoedd Celtaidd eraill.

"Maen nhw am wybod sut, lle a phryd yr ymddangosodd yr ieithoedd hyn - beth mae'r arbenigwyr yn ei wybod a beth nad ydyn nhw'n ei wybod.

"Beth yw'r modelau hyfyw a'r dystiolaeth sy'n eu ffafrio? Fel arall rydym ni'n cefnogi etifeddiaeth ddiwylliannol gyda model darfodedig."

Cyfraniad Llyfrgell Genedlaethol Cymru i'r prosiect fydd lletya a chynnal gwefan y prosiect, gan barhau am o leiaf dair blynedd y tu hwnt i gwblhau ymchwil dan y grant AHRC yn 2016.

Bydd y gwaith yn cael cyhoeddusrwydd pellach drwy raglen o gynadleddau undydd cyhoeddus.