Canfod corff: Heddlu'n ymchwilio

Mae Heddlu'r De yn ymchwilio i farwolaeth dyn yn dilyn darganfyddiad corff yng Nghaerdydd nos Sadwrn.

Cafwyd hyd i'r corff ar Ffordd Sain Ffagan am 9:08pm nos Sadwrn, ac mae'r heddlu'n trin y farwolaeth fel un anesboniadwy ar hyn o bryd.

Credir mai corff dyn 24 oed ydoedd, ond nid yw'r corff wedi cael ei adnabod yn swyddogol hyd yma.

Mae ymchwiliad yr heddlu yn parhau, ond doedd ganddyn nhw ddim sylw pellach i wneud ar y mater ar hyn o bryd.