Seintiau'n agor mwy o fwlch

Uwchgynghrair Cymru Image copyright Not Specified

Port Talbot 0-3 Y Seintiau Newydd

Yn yr unig gêm i gael ei chwarae ddydd Sul yn Uwchgynghrair Cymru, fe fanteisiodd Y Seintiau Newydd ar y cyfle i agor bwlch enfawr ar frig y tabl gyda buddugoliaeth ym Mhort Talbot.

Daeth dwy gôl i'r ymwelwyr yn yr hanner cyntaf.

Mike Wilde gafodd y gyntaf wedi 12 munud cyn i Aeron Edwards ychwanegu'r ail wedi 29 munud.

Ychwanegodd Jamie Mullan un arall gyda dau funud o'r chwarae yn weddill i goroni'r fuddugoliaeth i'r Seintiau, sydd bellach angen un fuddugoliaeth arall i sicrhau'r bencampwriaeth am yr ail dymor yn olynol.

Lido Afan 1-3 Llanelli

Gyda'r eira yn difetha'r amserlen yn Uwchgynghrair Cymru ddydd Sadwrn dim ond un gêm gafodd ei chwarae a honno yn hanner isa'r tabl.

Lido Afan oedd yn croesawu Llanelli, ond yr ymwelwyr enillodd y triphwynt.

Aeth Llanelli ar y blaen wedi llai na chwarter awr diolch i gôl gan Craig Moses.

Doedd dim syndod gweld y tîm cartref yn cael trafferthion gan eu bod nhw bellach 13 pwynt y tu ôl i'r gweddill ar waelod y tabl.

Ond fe welodd Craig Moses y cerdyn coch wedi 28 munud, ac roedd rhaid i Lanelli chwarae gweddill y gêm gyda 10 dyn.

Er hynny fe ddaeth yr ail er bod rhaid aros tan 65 munud amdani gyda Jordan Smith yn rhwydo i Lanelli.

Ond roedd mwy i ddod yn y munudau olaf.

Yn gyntaf fe gipiodd Chris Hartland gôl i Lido Afan i godi'r gobeithion am ddiweddglo dramatig dim ond i Jack McKenna gael y drydedd i'r ymwelwyr gyda chic olaf y gêm bron.

Tabl Uwchgynghrair Cymru
Gemau Pwyntiau
1. Y Seintiau Newydd 27 61
2. Airbus 26 45
3. Bangor 27 44
4. Port Talbot 28 39
5. Prestatyn 27 37
6. Caerfyrddin 25 33
7. Bala 27 41
8. Llanelli 28 36
9. Cei Connah * 26 33
10.Aberystwyth 27 31
11. Y Drenewydd 26 30
12. Lido Afan 26 17