Cymru v Croatia: Jack Collison allan

Jack Collison
Image caption Mae Collison yn un o bum chwaraewr canol cae sydd ddim ar gael ar gyfer yr ornest yn erbyn Croatia

Ni fydd Jack Collison ar gael ar gyfer gêm Cymru yn erbyn Croatia yn Stadiwm Liberty yng ngrŵp rhagbrofol Cwpan y Byd 2014 nos Fawrth.

Nid yw Collison, 24 oed, yn ddigon iach i chwarae dwy gêm mewn pedwar diwrnod wrth iddo wella ar ôl anaf difrifol i'w ben-glin.

Mae Collison yn un o bum chwaraewr canol cae Cymru sydd ddim ar gael ar gyfer yr ornest yn erbyn Croatia.

Mae David Vaughan, Joe Allen, David Edwards ac Andrew Crofts yn dioddef o anafiadau ac fe fydd Aaron Ramsey yn colli'r gêm wedi iddo gael ei anfon o'r cae wedi 90 munud o'r gêm yn erbyn Yr Alban nos Wener am dacl drwstan ar James McArthur.

Cafodd Owain Tudur Jones ei alw i ymuno â charfan Cymru ddydd Llun wedi gwaharddiad Ramsey.

Mae Jones, sy'n chwarae yn Yr Alban gyda Inverness Caledonian Thistle, wedi chwarae chwe gwaith dros Gymru.

Y disgwyl yw i chwaraewr canol cae Caerlŷr Andy King wnaeth ddod oddi ar y fainc i gymryd lle Collison ar ôl 58 munud o'r gêm yn erbyn Yr Alban ddechrau'r gêm yn erbyn Croatia yn lle Ramsey.

Cytundeb Coleman

Disgwylir hefyd i Gareth Bale chwarae nos Fawrth er iddo beidio chwarae yn ail hanner y gêm nos Wener.

Bu'n hyfforddi gyda'r garfan ddydd Sul a dydd Llun ac mae disgwyl ei fod wedi gwella o firws ac anaf i'w ffêr.

Yn y cyfamser mae cyn-reolwr Cymru Terry Yorath wedi dweud y dylai cytundeb rheolwr y tîm cenedlaethol Chris Coleman gael ei estyn.

Mae cytundeb Coleman yn dod i ben ar ddiwedd gemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2014 ar ddiwedd y flwyddyn.

"Os ydych chi'n rheoli tîm cenedlaethol mae'n rhaid i chi gael y cysur o gael cytundeb tymor hir," meddai Yorath, 62 oed, wnaeth chwarae dros Gymru 59 tro rhwng 1969 a 1981.

"Mae'n rhaid i Coleman helpu'r chwaraewyr ifanc ddatblygu ac mae'n rhaid i Gymdeithas Bêl Droed Cymru gynnig y swydd iddo."

Mae Cymru yn drydydd yn y tabl tu ôl i Wlad Belg a Croatia.

Colli oedd hanes Cymru o 2-0 yn erbyn Croatia oddi-cartref ym mis Hydref.

Nos Wener curodd Croatia Serbia 2-0 yn Zagreb yn y gêm gyntaf rhwng y ddwy wlad yn dilyn y rhyfel rhyngddynt yn ystod yr 1990au.

ROWNDIAU RHAGBROFOL CWPAN Y BYD 2014 - GRŴP A
Chwarae Ennill Cyfartal Colli Pwyntiau
1. Gwlad Belg 5 4 1 0 13
2. Croatia 5 4 1 0 13
3. CYMRU 5 2 1 2 6
4. Serbia 5 1 1 2 4
5. Macedonia 5 1 1 3 4
6. Yr Alban 5 0 2 2 2

Carfan Cymru

Boaz Myhill (West Bromwich Albion), Lewis Price (Crystal Palace), Owain Fôn Williams (Tranmere Rovers), Ben Davies (Abertawe), James Collins (West Ham United), Chris Gunter (Reading), Joel Lynch (Huddersfield Town), Ashley Richards (Abertawe - ar fenthyg i Crystal Palace), Sam Ricketts (Bolton Wanderers), Ashley Williams (Abertawe), Lewin Nyatanga (Bristol City), Jack Collison (West Ham United), Andy King (Caerlŷr), Joe Ledley (Celtic), David Vaughan (Sunderland), Jonathan Williams (Crystal Palace), Gareth Bale (Tottenham Hotspur), Craig Bellamy (Dinas Caerdydd), Jermaine Easter (Crystal Palace - ar fenthyg i Millwall), Simon Church (Reading), Hal Robson-Kanu (Reading), Sam Vokes (Burnley), Owain Tudur Jones (Inverness Caledonian Thistle).

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.