Colli budd-dal ond 'ddim am symud'

Ystafell wely Image copyright Getty Images
Image caption Mae'r gosb ariannol am fod ag ystafell wely dros ben yn cael ei adnabod fel "treth ystafell wely"

Mae nifer o denantiaid, fydd yn gweld newidiadau yn eu budd-dal tai am fod ganddynt ystafelloedd gwely sbâr, yn annhebygol o symud yn ôl rhai o gymdeithasau tai mwya' Prydain.

Mae Tai Cymunedol Cymru, er enghraifft - sy'n cynrychioli 70 o gymdeithasau tai ar draws y wlad - yn rhagweld na fydd 91% o bobl sy'n hawlio budd-dal o'r fath yng Nghymru yn symud i gartrefi llai.

Mae hynny'n tua 36,000 o denantiaid allan o gyfanswm o 40,000.

O fis Ebrill ymlaen bydd y rhan fwyaf o bobl sy'n derbyn cymhorthdal tai yn gweld gostyngiad yn yr arian y maen nhw'n ei gael os oes ganddynt ystafelloedd gwely sydd ddim yn cael eu defnyddio.

Mae'r newidiadau gan Lywodraeth San Steffan yn golygu bod nifer yr ystafelloedd gwely mewn tŷ neu fflat yn gorfod cyfateb yn union i nifer y bobl sy'n byw yno.

£23 biliwn

Er enghraifft, bydd rhai sydd ag un ystafell sbâr yn derbyn 14% yn llai o arian, gyda thenantiaid sydd â dwy neu fwy o ystafelloedd gwely sydd ddim yn cael eu defnyddio'n colli 25% o'u budd-dal.

Mae Adran Gwaith a Phensiynau San Steffan yn disgwyl i 270,000 o denantiaid tai cymdeithasol ar draws Prydain weld gwahaniaeth yn eu taliadau, a nifer uwch - 390,000 - o denantiaid tai cyngor.

Gobaith y llywodraeth yw arbed £23 biliwn y flwyddyn mewn budd-daliadau, ac maen nhw'n dweud y bydd yn gwneud y system fudd-daliadau yn decach i bawb.

Ond yn ôl ymchwil gan y BBC, mae cyfartaledd o 80% o'r rhai a holwyd trwy'r DU yn bwriadu aros yn eu cartrefi er gwaetha'r gosb ariannol.

Ond mae rhai sy'n feirniadol o'r polisi yn dweud fod 'na brinder cartrefi llai, sy'n golygu nad yw nifer o denantiaid fyddai'n dymuno symud yn sgil y newidiadau yn gallu gwneud.

Yn ôl Tai Cymunedol Cymru, byddai 88% o gymdeithasau tai yng Nghymru yn cael trafferth dod o hyd i gartrefi i'w tenantiaid petai nhw'n ceisio symud pawb syn wynebu toriadau budd-dal.

"Nid oherwydd bod y tenantiaid mewn tai mawr yn ddi-angen, ond am fod 'na brinder cenedlaethol o dai fforddiadwy, yn enwedig cartrefi un a dwy lofft," meddai Bethan Samuel o Dai Cymunedol Cymru.

Straeon perthnasol