Llanelli: Barnwr yn gwrthod cais dirwyn i ben

Llanelli yn ennill Cwpan Cymru yn 2011
Image caption Enillodd Llanelli Gwpan Cymru yn 2011

Mae barnwr Uchel Lys wedi gwrthod cais i ddirwyn Clwb Pêl-droed Llanelli i ben.

Roedd y cais oddi wrth gyfreithwyr Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi.

Dyfarnodd y Cofrestrydd Jones y dylai cyn-bencampwyr Uwchgynghrair Cymru gael 28 diwrnod i ad-dalu dyledion yn llawn neu wneud cais am ddiddymu.

Mae'r ddwy ochr yn anghytuno ynghylch maint y ddyled.

Hwn oedd y trydydd tro mewn chwe mis i'r clwb wynebu gorchymyn dirwyn i ben yn yr Uchel Lys.

Enillodd Llanelli, sy'n chwarae yn Uwchgynghrair Cymru, Gwpan Cymru yn 2011.

Cafodd Clwb Pêl-droed Castell-nedd ei ddirwyn i ben yn yr Uchel Lys yn Llundain ym mis Mai y llynedd.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.