Eira: Pryder ynghylch marwolaeth defaid yn y gogledd

Ŵyn yn yr eira Image copyright PA
Image caption Mae disgwyl i'r tywydd oer barhau tan y penwythnos

Mae undeb ffermwyr wedi dweud eu bod yn poeni y gallai cannoedd o ddefaid farw wrth i'r tywydd oer barhau yng Ngogledd Cymru.

Dywedodd Undeb Amaethwyr Cymru fod ffermwyr yn wynebu her wrth geisio cadw defaid oedd yn yr eira'n fyw heb sôn am geisio achub defaid eraill wedi eu claddu o dan luwchfeydd 15 troedfedd o ddyfnder.

Mae disgwyl i'r tywydd oer barhau tan y penwythnos.

Dywedodd Gwyn Williams, rheolwr ardal yr undeb yng Nghonwy, na fyddai ffermwyr yn gwybod faint o ddefaid ac ŵyn y byddan nhw wedi eu colli tan i'r eira ddadleth.

Goroesi

Ychwanegodd y gallai defaid oroesi am wythnosau yn yr eira, yn enwedig os ydyn nhw gyda'i gilydd am eu bod yn gallu bwyta gwlân ei gilydd.

"Rydym yn gallu dygymod â'r sefyllfa am ddeuddydd neu dridiau ond fyddwn ni ddim yn gallu ymdopi am gyfnod hirach na hyn," meddai.

Dywedodd Gareth Wyn Jones, ffermwr mynydd yng Nghonwy, fod ei gi defaid wedi ei helpu i achub 70 o ddefaid ers dau ddiwrnod.

Ychwanegodd Mr Jones, sy'n berchen ar 3,500 o ddefaid ar ei fferm yn Llanfairfechan, ei fod wedi bod yn ceisio achub defaid ar ei dir ers tridiau ond nad oedd llawer o obaith o ddod o hyd i fwy o ddefaid yn fyw.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.