Cyhoeddi enw ar ôl canfod corff yng Nghaerdydd

Mae Heddlu De Cymru wedi cyhoeddi enw dyn a gafodd ei ddarganfod yn farw yng Nghaerdydd dros y penwythnos.

Cafwyd hyd i gorff Lewis Martin, 24 oed, ar Ffordd Sain Ffagan, yn ardal Y Tyllgoed, am 9:08pm nos Sadwrn.

Mae'r heddlu'n trin y farwolaeth fel un anesboniadwy ar hyn o bryd.

Bydd yr achos nawr yn cael ei gyfeirio at y crwner.

Mae ymchwiliad yr heddlu yn parhau, ond doedd ganddyn nhw ddim sylw pellach i wneud ar y mater ar hyn o bryd.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.