Apêl am ferch 15 oed o Gwmbrân ar goll

Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth ynglyn â merch 15 oed o Gwmbrân sydd ar goll.

Fe adawodd Nia Rogers ei chartre' yn Llys Trannon, Thornhill, am 12:40pm ddydd Sadwrn ond wnaeth hi ddim dychwelyd.

Mae tua phum troedfedd o daldra, gyda gwallt du at ei hysgwyddau a llygaid glas.

Mae'n gwisgo sbectol a chredir ei fod yn gwisgo siaced ddu Super Dry, gyda logo pinc arni, crys-T glas gyda logo Superman arno, a throwsus du gyda chroesau gwynion arnyn nhw. Roedd hi'n cario bag llaw llwyd.

Oherwydd ei hoedran mae swyddogion yn dweud eu bod yn pryderu am ei diogelwch ac maen nhw'n apelio ar i unrhyw un sydd wedi ei gweld neu yn gwybod ble mae hi i gysylltu â'r heddlu ar 101.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.