Dau wedi marw ar ôl i'w car daro yn erbyn coeden

Mae Heddlu De Cymru yn apelio am wybodaeth wedi i ddau farw yn dilyn gwrthdrawiad yng Nghwm Tawe nos Fawrth.

Roedd car Renault Clio lliw arian wedi taro yn erbyn coeden wrth deithio ar hyd Ffordd Castell-nedd, yr A474, yn ardal Fforest Goch ger Pontardawe tua 7:00pm.

Bu'n rhaid cau'r A474 am tua saith awr wrth i'r heddlu wneud eu gwaith.

Bu farw dau o'r teithwyr yn y car yn y fan a'r lle a bu'n rhaid cludo trydydd teithiwr i'r ysbyty am driniaeth.

Mae swyddog cyswllt yr heddlu yn cefnogi'r teulu ac mae'r crwner wedi cael ei hysbysu.

Yn y cyfamser, mae'r heddlu yn apelio ar i unrhyw un â gwybodaeth i gysylltu â nhw ar 101 neu ffonio Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.