Cwmni'n creu 25 swydd yng Nghwmbrân

Mae cwmni sy'n datblygu meddalwedd ar gyfer y farchnad deledu digidol yn bwriadu creu 25 o swyddi newydd yng Nghwmbrân.

Fe agorodd Nagra Media UK, cwmni o'r Swistir, eu pencadlys ym Mharc Llantarnam yn 2006.

Mae'r cwmni'n canolbwyntio ar ddarparu meddalwedd integredig ar gyfer technoleg teledu digidol, gan gynnwys lloeren, cebl, rhwydweithiau ffonau symudol a'r rhyngrwyd.

Daw'r penderfyniad i ehangu ar ôl cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, a ddywedodd y byddai'n creu "swyddi sgiliau uchel, fyddai'n talu'n dda".

Mae'r cwmni bellach yn cyflogi 75 o bobl ar eu safle yng Nghwmbrân.

Dywedodd Gweinidog Busnes Llywodraeth Cymru, Edwina Hart: "Bydd hyn yn cynyddu capasiti Cwmbrân i ddatblygu meddalwedd.

"Mae'r penderfyniad i ehangu yng Nghymru yn adrodd cyfrolau am y staff a'r math o weithlu sydd ar gael yng Nghymru ac sy'n gallu parhau i ddatblygu mewn sector cystadleuol sy'n symud yn gyflym."

Dywedodd Mark Williams, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Nagra Media UK Ltd : "Mae'r buddsoddiad diweddaraf yn arwydd o'n hymrwymiad i Gymru. Rydym yn gwerthfawrogi'r gefnogaeth barhaus sy'n cael ei rhoi i ni gan Lywodraeth Cymru ers i ni agor y ganolfan saith mlynedd yn ôl."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.