Cytundeb newydd i Dan Biggar gyda'r Gweilch

Dan Biggar Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Roedd Dan Biggar yn rhan amlwg o garfan Cymru wnaeth ennill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni

Mae Dan Biggar, maswr Cymru, wedi arwyddo cytundeb tair blynedd newydd i aros gyda'r Gweilch.

Mae cytundeb presennol y chwaraewr 23 oed yn dod i ben ar ddiwedd y tymor.

Nawr fe fydd yn aros yn Stadiwm Liberty tan ddiwedd tymor 2015-16.

Roedd wedi dweud ym mis Ionawr ei fod yn gobeithio arwyddo cytundeb newydd gyda'r rhanbarth.

"Maen nhw wedi bod yn dda gyda fi ac wedi fy nghefnogi," meddai.

"Mae'n wych fy mod yn gallu cydnabod hynny drwy arwyddo cytundeb i barhau gyda'r rhanbarth."

Mae Biggar wedi ennill 16 cap dros Gymru gan sgorio 62 pwynt ac roedd yn ffigwr amlwg i garfan Cymru enillodd Bencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.

Enillodd ei gap cyntaf ym mis Tachwedd 2008 yn erbyn Canada.

Chwaraeodd Biggar i dîm cyntaf y Gweilch yn 18 oed fel eilydd ym muddugoliaeth y rhanbarth yn erbyn Saracens yn Stadiwm y Mileniwm yn rownd gynderfynol Cwpan EDF yn 2008,

Ym mis Tachwedd 2011, newydd iddo gael ei ben-blwydd yn 22 oed, llwyddodd i guro James Hook fel y chwaraewr i sgorio'r mwya' o bwyntiau dros y rhanbarth, record sydd bellach wedi ymestyn i 1,206.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.