Wrecsam angen gwirfoddolwyr i glirio eira o'r Cae Ras

Wrecsam oedd yn fuddugol yn Wembley ac yn codi Tlws FA Lloegr Image copyright Getty Images
Image caption Wrecsam oedd yn fuddugol yn Wembley ac yn codi Tlws FA Lloegr ddydd Sul diwethaf

Mae Clwb Pêl-Droed Wrecsam yn chwilio am wirfoddolwyr i glirio eira oddi ar y Cae Ras cyn gêm nesaf y clwb ddydd Llun.

Mae Wrecsam i fod herio Macclesfield am 3pm Dydd Llun Y Pasg.

Ond mae 'na amheuon a fydd y gêm yn cael ei chynnal yn sgil yr eira trwm sydd wedi disgyn ar y maes yn ystod y dyddiau diwethaf.

Dywed y clwb ei fod yn debygol na fydd Eisteddle Prifysgol Glyndŵr yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y gêm ond bydd y penderfyniad terfynol yn cael ei wneud ddydd Sul.

Yn ôl y clwb mae angen clirio'r eisteddfeydd ar ochr y cae i'w gwneud yn ddiogel ar gyfer cefnogwyr y ddau dîm.

Tlws FA

Ond mae hefyd angen clirio'r cae yn ôl datganiad ar wefan y Dreigiau.

Image copyright CLWB PêL-DROED WRECSAM
Image caption Mae cryn dipyn o eira ar y Cae Ras

Mae'r clwb yn gofyn i bob gwirfoddolwyr ddod â berfa a rhaw i helpu wneud y gwaith caib a rhaw ddydd Gwener a dydd Sul.

Dydd Sul diwethaf enillodd Wrecsam Tlws FA Lloegr ar eu hymweliad cyntaf â Wembley drwy guro Grimsby ar giciau o'r smotyn 4-1 ar ddiwedd gêm gyfartal 1-1.

Mae ennill y Tlws wedi rhoi hwb i obeithion Wrecsam o ennill dyrchafiad i'r gynghrair bêl-droed.

Mae Wrecsam yn drydydd yn Uwchgynghrair Blue Square Bet ar hyn o bryd.

Bydd y clwb yn chwarae oddi cartref yn erbyn Hyde am 3pm ddydd Sadwrn.

TABL UWCHGYNGHRAIR BLUE SQUARE
Gemau Gwahaniaeth Goliau Pwyntiau
1.Kidderminster 41 32 78
2. Mansfield 38 29 77
3. WRECSAM 38 33 72
4. CASNEWYDD 37 21 69
5. Grimsby 38 24 65

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.