Damwain: Pedwar yn yr ysbyty

Mae pedwar yn cael triniaeth yn yr ysbyty oherwydd damwain rhwng pedwar car yn y Rhondda ddydd Sadwrn.

Cafodd y pedwar anafiadau i'r asgwrn cefn.

Roedd y ddamwain am 1.28pm yn Heol Nant y Gwyddon yn Y Gelli.

Bu raid i griwiau tân ddefnyddio offer arbenigol i dorri dwy fenyw yn rhydd o'u ceir.