Heddlu: Tân wedi ei gynnau'n fwriadol

Mae'r heddlu a'r gwasanaeth tân yn ymchwilio oherwydd tân gafodd ei gynnau'n fwriadol.

Cafodd hen glwb gweithwyr Cwm Clydach ei ddifrodi yn Nhonypandy yn Y Rhondda.

Dywedodd yr heddlu iddyn nhw gael gwybod am 12:45pm ddydd Sadwrn.

"Rydyn ni'n holi o ddrws i ddrws ac yn cynnal ymchwiliad fforensig," meddai'r Ditectif Arolygydd Rob Williams.

"Mae llosgi bwriadol yn drosedd ddifrifol. Dylai'r troseddwyr wybod bod y drosedd yn aml yn arwain at ddedfryd sylweddol o garchar."

Dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio'r heddlu ar 101 neu Taclo'r Tacle ar 0800 555 111, gan nodi cyfeirnod 62130093589.